b2 Brenhinoedd 15:32-38; 2 Cronicl 27:1-7; 2 Brenhinoedd 16:1-20; 2 Cronicl 28:1-27; 2 Brenhinoedd 18:1—20:21; 2 Cronicl 29:1—32:33

Micah 1

1Dyma'r neges roddodd yr Arglwydd i Micha o Moresheth.
1:1 Moresheth Pentref neu dref fach yn ne-orllewin Jwda, wrth ymyl Gath – gw. adn 14.
Roedd yn proffwydo pan oedd Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda. b Dyma ddangosodd Duw iddo am Samaria a Jerwsalem.
1:1 Samaria a Jerwsalem Samaria oedd prifddinas teyrnas y gogledd (Israel), a Jerwsalem oedd prifddinas teyrnas y de (Jwda).

Dinistrio Samaria yn rhybudd i Jerwsalem

2Gwrandwch, chi bobl i gyd!
Cymrwch sylw, bawb sy'n byw drwy'r byd!
Mae'r Arglwydd, y Meistr, yn dyst yn eich erbyn;
mae'n eich cyhuddo chi o'i deml sanctaidd.
3Edrychwch! Mae'r Arglwydd yn dod!
Mae'n dod i lawr ac yn sathru'r mynyddoedd!
4Bydd y mynyddoedd yn dryllio dan ei draed,
a'r dyffrynnoedd yn hollti.
Bydd y creigiau'n toddi fel cwyr mewn tân,
ac yn llifo fel dŵr ar y llethrau.
5Pam? Am fod Jacob wedi gwrthryfela,
a pobl Israel wedi pechu.
Sut mae Jacob wedi gwrthryfela?
Samaria ydy'r drwg!
Ble mae allorau paganaidd Jwda?
Yn Jerwsalem!
6“Dw i'n mynd i droi Samaria
yn bentwr o gerrig mewn cae agored –
bydd yn lle i blannu gwinllannoedd!
Dw i'n mynd i hyrddio ei waliau i'r dyffryn
a gadael dim ond sylfeini'n y golwg.
7Bydd ei delwau'n cael eu dryllio,
ei thâl am buteinio yn llosgi'n y tân,
a'r eilunod metel yn bentwr o sgrap!
Casglodd nhw gyda'i thâl am buteinio,
1:7 tâl am buteinio Yn y temlau paganaidd, roedd dynion yn cael rhyw gyda puteiniaid fel rhan o'r addoliad.

a byddan nhw'n troi'n dâl i buteiniaid eto.”
8Dyna pam dw i'n galaru a nadu,
a cherdded heb sandalau ac mewn carpiau;
yn udo'n uchel fel siacaliaid,
a sgrechian cwyno fel cywion estrys.
9Fydd salwch Samaria ddim yn gwella!
Mae wedi lledu i Jwda –
mae hyd yn oed arweinwyr fy mhobl
yn Jerwsalem wedi dal y clefyd!

Mae'r gelyn ar ei ffordd

10‛Peidiwch dweud am y peth yn Gath!‛
1:10 Gath Un o drefi'r Philistiaid. Mae'r llinell yma yn dyfynnu llinell o gân Dafydd er cof am Saul a Jonathan ar ôl iddyn nhw gael eu lladd gan y Philistiaid mewn brwydr ar Fynydd Gilboa – 2 Samuel 1:20

Peidiwch crïo rhag iddyn nhw eich clywed!
Bydd pobl Beth-leaffra
1:10 Beth-leaffra Mae Beth-leaffra yn swnio fel yr Hebraeg am “Tŷ'r Llwch”.
yn rholio yn y llwch.
11Bydd pobl Shaffir yn pasio heibio
yn noeth ac mewn cywilydd.
Bydd pobl Saänan yn methu symud,
a Beth-haetsel yn gwneud dim ond galaru –
fydd hi ddim yn dy helpu eto.
12Bydd pobl Maroth
1:12 Maroth Mae Maroth yn swnio fel yr Hebraeg am "pethau chwerw"
yn aflonydd
wrth ddisgwyl am rywbeth gwell i ddigwydd
na'r difrod mae'r Arglwydd wedi ei anfon,
ac sy'n gwasgu ar giatiau Jerwsalem.
13Clymwch eich cerbydau wrth y ceffylau,
bobl Lachish!
1:13 Lachish Y dref fwyaf yn ne Jwda, tua 30 milltir i'r de-orllewin o Jerwsalem.

Chi wnaeth wrthryfela fel Israel
ac arwain pobl Seion i bechu!
1:13 chi … bechu Yn Hebraeg mae "Lachish" yn swnio fel "tîm o geffylau (sy'n tynnu cerbyd rhyfel)" Falle fod Lachish yn symbol o'r ffaith fod pobl yn trystio grym milwrol yn lle trystio'r Arglwydd. Neu falle fod addoli eilunod a syniadau paganaidd wedi dod i'r wlad o'r Aifft drwy Lachish.

14Bydd rhaid i chi ddweud ffarwél
wrth Moresheth-gath,
a bydd tai Achsib
1:14 Achsib Ystyr Achsib ydy ‛twyllodrus‛ neu ‛siomedig‛. Heb fod yn bell o Ogof Adwlam (adn.15), ble cuddiodd Dafydd oddi wrth y Brenin Saul (gw. 1 Samuel 22:1,2). Bydd pobl Israel yn ceisio dianc am eu bywydau, ond gobaith gwag fydd hynny (gw. adn.15).
yn siomi –
bydd fel ffynnon wedi sychu i frenhinoedd Israel.
15Bobl Maresha,
1:15 Maresha Mae'n swnio'n debyg i'r gair Hebraeg am ‛concwerwr‛. Roedd Maresha ychydig filltiroedd i'r gogledd-ddwyrain o Lachish. Roedd y ddwy yn gaerau amddiffynnol ers cyfnod Rehoboam (gw. 2 Cronicl 11:5-10)
bydd gelyn yn dod i goncro a dal eich tref,
a bydd arweinwyr Israel yn ffoi i ogof Adwlam
1:15 ogof Adwlam gw. y nodyn ar 1:14.
eto.
16Felly, Jerwsalem, siafia dy ben i alaru
am y plant rwyt ti'n dotio atyn nhw.
Gwna dy dalcen yn foel fel y fwltur,
am fod y gelyn yn mynd i'w cymryd nhw'n gaeth.
Copyright information for CYM